Pages

13/01/2011

Clwb Gwyddoniaeth wedi Dychwelyd!

Gwnaethom ailgychwyn y clwb eleni ar ddydd Mawrth. Dechreuom gydag arbrawf 'ysgrifen tân'.

Diolch i Dr Dyfrig Thomas, Mr. Alan Davies, Luke Williams a Katie Rumble. Bydd Miss Eleri Lloyd yn cymryd yr awennau yr wythnos nesaf.

06/01/2011

5 Diwrnod i Fynd!!!!

Wel, o'r diwedd rydym yn barod i ailgychwyn y Clwb Gwyddoniaeth.

Bydd yn dechrau ar Ddydd Mawrth.

Gwelwch eich athro gwyddoniaeth am fanylion pellach.

Bydd angen llythyr caniatâd arnoch.

Croeso i bawb o flwyddyn 7.

Er, 'dyw hi ddim yn bosib i gynnal Clwb i Fl.8 ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cynnig rhai gweithgareddau yn fuan. Gwnewch dderbyn wybodaeth gan eich athrawon.

29/12/2010

Darlithau'r Nadolig

Mae'r Gyfres ar gael ar iPlayer y BBC:

1. Why Elephants Can't Dance

2. Why Chocolate Melts and Jet Engines Don't

3. I ddod yfory: 20:00 ar BBC4.

Yn ogystal â hyn mae sawl rhaglen arall ar gael, gan gynnwys Wonders of the Solar System:

1. Empire of the Sun

2. Order Out of Chaos

3. The Thin Blue Line

05/10/2010

Explorer Dome

Daeth Explorer Dome i'r Cymer heddiw i adloni, diddori ac addysgu rhai dosbarthiadau Blwyddyn 9 a 10. Gyda chymorth EBP, daeth Jim a Louis i gyflwyno hanes ein planed, gan esbonio'i darddiad, symudiad dwr a chreigiau, cyfansoddiad yr atmosffer a newidiadau dros amser. Hefyd cawsom wybodaeth ar esblygiad organebau byw o'r bacteria cyntefig i'r bodau sydd yn rhannu'r Ddaear gyda ni heddiw.







Hoffwn ddiolch i Angela o EBP a Jim a Louis o Explorer Dome am ddiwrnod i'w gofio.
Thank you to Angela, Jim and Louis for a day to remember.

16/09/2010

Datgelu Cyfrinachau Cemeg

Diwrnod i'w gofio lawr yng Nghaerdydd dydd Gwener diwethaf. Cynhaliwyd gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr Bl.13, gan gynnwys darlithoedd, abrofion ac arddangosfeydd.



Yn dilyn darlith ar echdynnu a syntheseiddio cemegau, cafodd y myfyrwyr gyfle is gynhyrchu limonen, olew anghenraid a ddaw o groen ffrwythau sitrig, gan y broses distylliad ager. Yna gwnaethant gynnal nifer o brofion adnabod ar amryw o gemegau organig - pwysig iawn ar gyfer y modiwl CH4. Ar ôl cinio cafodd y myfyrwyr ddarlith ar sbectrosgopeg CMN (NMR), is-goch a màs, gyda cwis difyr i orffen y sesiwn.
Gwnaeth arolygwyr yr adran dywys y myfyrwyr o gwmpas labordai arbennig lle roedd gwaith CMN a sbectrosgopeg màs yn digwydd.

Hoffwn ddiolch i Peter Hollamby, Eurig Thomas a'r Adran Gemeg, Prifysgol Caerdydd am drefnu'r diwrnod.

29/06/2010

Croesawu Blwyddyn 6

O! Dyna le! Awtopsi yn y labordy a gwaith CSI yn dilyn. Pleser oedd croesawu ein blwyddyn 6 heddiw. Cafodd pawb amser da - gan gynnwys yr athrawon.

Cymerodd y disgyblion rhan mewn llawer o weithgareddau fforensig, gan gynnwys canfod gwaed, adnabod olion bysedd, canfod lliwurau mewn inc, profion fflam ar ystod o wenwwynau a phrofi asidedd pridd ar esgidiau'r drwgdybwyr.

Cafwyd Y Parchedig Gwyrdd yn euog o'r drosedd!

[posib bydd lluniau a fideo yn ymddangos os cawn hawl]

Hoffwn ddiolch i aelodau o'r chweched dosbarth am eu gwaith caled. Ni fyddai modd cynnal gweithgareddau o'r math hebddoch chi! Diolch o'r galon.

27/06/2010

Nôl o'r Diwedd!

Wel, mae wedi bod yn amser hir gyda'r arholiadau allanol.

Cafodd ein brainiacs dipyn o sioc heddiw - yn llythrennol! Gwnaethom ymchwilio'r generadur van der Graaf.